Rydym wrth ein bodd eich bod yn bwriadu ymgeisio am gyllid oddi wrthym yn y Gronfa Gwaddol Ieuenctid. I ymgeisio, bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen hon.
Dywedwch wrthym mor onest â phosibl am yr hyn rydych chi’n cynnig ei wneud. Rydym am i'ch cynnig ddangos i ni:
Os mai dyma chi, ymgeisiwch.
Mae’r ffurflen wedi’i rhannu’n 2 ran; 13 Cwestiwn cymhwyster Ie / Na i weld os ydych chi’n addas i ymgeisio am y cyllid ac yna’r prif gais fydd yn gofyn am ymatebion manwl ynglŷn â’ch cais am gyllid. Cyn ymgeisio, gallwch ddymuno adolygu’r rhestr o gwestiynau o dudalen 25 o’n cyfarwyddyd ymgeisio, i weld pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Rydym yn gwybod bod cryn nifer o gwestiynau, ond rydym yn credu eu bod oll yn ymwneud â phethau y byddai angen i chi eu hystyried i sicrhau bod y cyllid hwn yn gywir ar eich cyfer.
Gallwch arbed eich ffurflen ar unrhyw adeg a dychwelyd ato’n ddiweddarach. Rydym yn argymell eich bod yn cadw nodyn o’ch atebion wrth i chi gwblhau’r ffurflen, rhag ofn y byddwch yn cyfarfod â materion technegol.
Wrth ddefnyddio’r nodwedd ‘Arbed ac Ailddechrau', peidiwch ag anghofio gwirio eich bod wedi mewngofnodi’ch cyfeiriad e-bost yn gywir a’ch bod wedi gwneud nodyn o’ch cyfrinair. Cyn gynted â’ch bod wedi clicio ‘Arbed’ dylech dderbyn e-bost â dolen i’ch cais a arbedwyd. Defnyddiwch y ddolen hon i gyrchu’ch ffurflen gais. Os nad ydych wedi derbyn unrhyw e-bost, gwiriwch eich blwch sothach neu fel arall cysylltwch â ni ar
grants@youthendowmentfund.org.uk.
Peidiwch â defnyddio botwm Yn ôl nac Ymlaen eich porwr gan y bydd hyn yn arwain at unrhyw ateb a gofnodwyd yn flaenorol yn cael ei golli. Defnyddiwch y botymau llywio yn y dudalen.
Cyn gynted â’n bod wedi derbyn yr holl gynigion byddwn yn darllen ac yn asesu pob un ohonynt yn unigol. Os nad ydym yn cyllido eich cynnig, nid yw’n golygu ein bod yn meddwl eich bod yn gwneud gwaith gwael o gwbl. Rydym yn ceisio canfod y cynigion gorau lle gallwn gynnal yr arfarniadau gorau i adeiladu consensws ar yr hyn sy’n gweithio. Cyfeiriwch at y ddogfen gyfarwyddyd am ragor o wybodaeth ynglŷn a phryd y gallwch ddisgwyl clywed oddi wrthym a beth fydd y camau nesaf.
Mae angen yr wybodaeth arnom yn y ffurflen hon er mwyn ystyried eich cais am gyllid. Mae gan ein hysbysiad preifatrwydd ymgeiswyr ragor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio’ch data personol.
Diolch am bopeth rydych yn ei wneud i gadw pobl ifanc yn ddiogel.
Bydd y ffurflen hon yn cau am 5pm ar 24 Mai 2024
Yr eiddoch,
Jon Yates
Cyfarwyddwr Gweithredol, YEF